Spring Awakening has been good for Wales. Written by Americans Steven Sater and Duncan Sheik, the 2009 West End production starred two young Welsh actors, Aneurin Barnard – recently seen in the film Ironclad, and Iwan Rheon – star of E4’s Misfits, who both won Olivier Awards for their performances. Earlier this year, the Welsh language company Theatr Genedlaethol Cymru (the National Theatre of Wales – not to be confused with the separate, English medium company), produced the show on tour to great success, and that production – Deffro’r Gwanwyn in Welsh – is now revived for a second tour with much the same cast, with English language subtitles available at certain performances.

A group of adolescents in late 19th century Germany discover themselves – and each other – in a story that examines the tensions between childhood and adulthood, with one number entitled Totally F***ed. However, what makes Spring Awakening unique is that the sometimes bleak themes in the story, that touch on abuse, abortion and suicide amongst other issues, are set to a soaring rock score, with scenes and numbers structured in what almost appears to be a series of one-act plays set to music. The story is strongly played by the three lead actors, with Aled Pedrick stepping into Aneirin Barnard’s shoes as a confident and personable Melchior Gabor, the schoolboy hero who wants to change the world, a good looking rebel much admired by his peers. Ceri Lloyd as Wendla captures the youth and vulnerability of an innocent girl who finds out the hard way where babies come from after being over sheltered by her cautious mother, and gives the appropriate emotional thrust to the opening number Mama Who Bore Me. Wendla’s childhood friendship with Melchior develops much further than they could have ever anticipated when they form a mutual bond, but their friend Moritz, an intense young man, is also integral to the story. Iddon Jones, who made such an impression as Mr Snow in Carousel at the Landor this summer is a worried and wronged Moritz, powerfully expressing the inner concern of an individual who is betrayed by his school teachers and unfairly failed in his exams and finds himself with nowhere to turn.

The rest of the young characters are equally troubled and frustrated at times, with the male ensemble singing one of the show’s highlights The Bitch of Living. Zoe George’s Martha is being physically abused by her father, showing the other girls her wounds in one powerful scene. In contrast, Georg (Siôn Ifan) lusts after his older and amply chested piano teacher in a hilariously performed My Junk. And Tomos Eames’ Hanschen easily seduces his naive and less experienced fellow classmate Ernst (Meilyr Rhys Williams). The adults – from the school teachers to the parents – betray the younger generation and manipulate them to their own ends. Dyfed Thomas and Victoria Pugh portray all the adult characters in a series of well observed insights into the hypocracy of their society, wisely resisting the temptation to go into caricature.

Elen Bowman (who directed Iwan Rheon in John Osborne’s The Devil Inside Him for National Theatre Wales last year to great acclaim) directs an energetic company, with the performance exploding onto the stage, thanks in no small part to the energetic six-piece band under the direction of Dyfan Jones. Bowman ensures that the cast make the most of a relatively small-scale but effective thrust stage set (Alex Eales) with the audience seated around the action, and Bridie Doyle conveys both the poetry and power of various strands of creative movement used throughout in her choreography. Nevertheless, the success of this Welsh language musical stands or falls to a large degree on the standard of the adaptation, and Dafydd James succeeds in conveying the many and various elements of the original, from city speak to more poetic moments of emotion, truly reflecting moments of both oppression and release.

Despite the trauma, Spring Awakening ends on a moving and positive note of life and hope for the future in the beautiful Song of Purple Summer, albeit with harsh life lessons learned from the past. Theatr Genedlaethol itself has learned its own fledgling life lessons over the past few years and is in a state of transition, with new artistic director Arwel Gruffydd recently promising an ‘exciting and ambitious programme for the future’. The full programme has yet to be announced, but one would hope that it will include Welsh language productions of important and provacative new musical work such as Spring Awakening. The company has already proved – in this production – that the Welsh talent, and indeed a bilingual audience, is there for those works to shine.


Sioe gerdd y Theatr Genedlaethol yn ailddeffro ar gyfer taith yr Hydref

Mae’r sioe gerdd Deffro’r Gwanwyn – neu Spring Awakening yn wreiddiol – wedi bod yn llwyddiant mawr i Gymru ac actorion o Gymru fel ei gilydd. Dau americanwr a gyfansoddodd y sioe, sef Steven Sater a Duncan Sheik, ond dau Gymro oedd yn perfformio ynddi yn y West End yn 2009. Enillodd Aneurin Barnard – a oedd yn y ffilm Ironclad yn ddiweddar, ac Iwan Rheon – o’r ddrama Misfits ar E4, Wobrau Olivier am eu perfformiadau yn y sioe. Yn ystod y gwanwyn eleni, bu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o’r sioe ar daith drwy Gymru gan ddenu cynulleidfaoedd brwdfrydig ac ifanc. Mae’r un cynhyrchiad bellach ar ail daith drwy’r wlad gyda rhai actorion newydd yn ymuno â’r cast gwreiddiol.

Wedi’i gosod yn yr Almaen ar ddiwedd y 19eg ganrif, mae’r stori’n dilyn grŵp o bobl ifanc yn eu glasoed yn tyfu i fyny ac yn darganfod eu hunain – ac yn darganfod ei gilydd ar yr un pryd – wrth i’r tyndra rhwng plentyndod a bod yn oedolyn yn dod i’r amlwg. Enw un gân yw Totally F***ed sy’n dweud y cwbl am y themâu caled ac anodd yn y stori, sy’n ymdrin â phynciau fel cam-drin, erthyliad a hunanladdiad. Fodd bynnag, yr hyn sy’n gwneud Deffro’r Gwanwyn yn arbennig yw bod y themâu wedi’u gosod yn erbyn cefndir cerddoriaeth roc drawiadol. Mae’r golygfeydd gwahanol a’r caneuon bron i’w gweld fel cyfres o ddramâu byrion i ryw raddau. Ac mae’r prif gymeriadau’n actorion profiadol â digon o ddawn i ymdopi â dyfnder eu rolau. Mae Aled Pedrick yn hyderus ac yn ddiffuant fel Melchior Gabor (rhan Aneirin Barnard gynt), yr arwr yn yr ysgol sydd eisiau newid y byd, a’r rebel golygus sy’n ennill parch gan ei gyfoedion. Mae Ceri Lloyd fel Wendla yn crisialu ieuenctid a natur fregus y ferch ddiniwed sy’n darganfod ffeithiau bywyd mewn ffordd greulon ar ôl i’w mam ei chysgodi’n ormodol – ac mae digon o emosiwn tyner yn ei chân agoriadol Mama Who Bore Me. Mae Wendla’n ffrindiau efo Melchior pan yn blant ond mae’r berthynas yn datblygu y tu hwnt i’w disgwyliadau yn nes ymlaen, ac mae eu ffrind Moritz, dyn ifanc dwys, yn anhepgor i’r stori hefyd.  Mae Iddon Jones – sydd wedi bod ar y llwyfan yn Llundain yn chwarae Mr Snow yn sioe Carousel dros yr haf – yn llwyddo i gyfleu angst y cymeriad i’r dim, ac yn cyfleu’n bwerus bryder mewnol dyn ifanc sy’n cael cam ac yn cael ei fradychu gan ei athrawon a’r system ac â nunlle i droi yn y pen draw.

Mae’r cymeriadau ifanc eraill yn wynebu rhwystredigaeth a thrafferthion tebyg, a’r bechgyn sy’n canu un o uchafbwyntiau’r sioe, The Bitch of Living. Mae Martha (Zoe George) yn cael ei cham-drin yn gorfforol gan ei thad, gan ddangos ei chlwyfau i’r merched eraill mewn un olygfa bwerus. Yn gwrthgyferbyniad i hyn, mae Georg (Siôn Ifan) yn dyheu am fod ym mreichiau ei athrawes biano mewn perfformiad difyr o’r gân My Junk. Ac mae cymeriad Tomos Eames, Hanschen, yn llwyddo i ddenu ei gyd-ddisgybl mwy naif Ernst (Meilyr Rhys Williams – sydd ar y sgrin yng nghyfres Zanzibar ar hyn o bryd). Mae’r oedolion, sef athrawon yr ysgol, rhieni’r cymeriadau a’r gymdeithas, yn bradychu’r to iau ac yn eu defnyddio i’w dibenion eu hun. Dyfed Thomas a Victoria Pugh sy’n portreadu’r holl gymeriadau sy’n oedolion – mae’r ddau yn cyfleu rhagfarn y gymdeithas i’r dim, gan osgoi unrhyw demtasiwn i oractio’r rhannau amrywiol.

Elen Bowman sy’n ôl wrth y llyw fel cyfarwyddwr, yn arwain cwmni egnïol – mae perfformiad y cwmni ifanc bron yn ffrwydro ar y llwyfan ar adegau. Mae’r band yn chwarae rhan holl bwysig hefyd o dan gyfarwyddyd egnïol a diogel Dyfan Jones. Mae’r gynulleidfa yn eistedd o gwmpas y set – cynllun syml ond effeithiol wedi’i ddylunio gan Alex Eales, ac mae Bridie Doyle yn cyfleu natur farddonol a natur rymus yr elfennau amrywiol o symudiad corfforol yn ei choreograffi drwyddi draw. Mae’r gwaith cyfieithu yn rhan anhepgor o addasiad Cymraeg unrhyw sioe, ac mae Dafydd James wedi llwyddo i gyfleu amryw elfennau’r gwreiddiol, o iaith y ddinas i elfennau emosiynol a barddonol, yn adlewyrchu gorthrwm a rhyddhad y stori i’r dim.

Er gwaetha’r trawma, mae Deffro’r Gwanwyn yn dod i ddiweddglo cadarnhaol a grymus, gan fynegi gobaith am y dyfodol mewn cân brydferth Song of Purple Summer, er bod gwersi anodd wedi’u dysgu ar hyd y daith. Mae Theatr Genedlaethol hithau wedi dysgu sawl gwers dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod o ailsefydlu ac ailasesu, a chyhoeddodd y cyfarwyddwr artistig newydd Arwel Gruffydd yn ddiweddar fod ‘rhaglen o weithgaredd cyffrous ac uchelgeisiol i’r dyfodol’ ar y gweill. Rhaid aros ychydig eto cyn datgelu cynnwys llawn y rhaglen honno, ond gobeithio bydd yn cynnwys cynhyrchiadau yn y Gymraeg o sioeau cerdd pwysig a heriol newydd fel Deffro’r Gwanwyn yntau. Mae’r dystiolaeth yno eisoes yn y sioe bresennol bod gyda ni’r talent yng Nghymru i weithiau o’r fath gael cynulleidfa a chyfle i ffynnu.